Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (279)v2 |
Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) NNDM5799
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Alun Ffred Jones (Arfon)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu cyhyd â bod fformiwla Barnett yn parhau y dylai datblygiadau sydd o fudd i Loegr yn unig, fel HS2, arwain at gyllid canlyniadol Barnett llawn i Gymru; a
2. Yn credu ymhellach, pan fo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn anghydfod ynghylch a ddylai gwariant arwain at gyllid canlyniadol Barnett i Gymru bod angen corff annibynnol i farnu ar hyn.
Cefnogir gan:
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5812 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynigion y Ceidwadwyr Cymreig i roi hwb i'r cymorth a roddir i brynwyr am y tro cyntaf; a
2. Yn cydnabod yr angen i helpu prynwyr am y tro cyntaf ar yr ysgol dai drwy weithio gyda'r farchnad gyfan i ddatblygu amrywiaeth o fentrau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r anawsterau sy'n wynebu prynwyr tro cyntaf o dan yr amgylchiadau economaidd cyfredol.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am fodel tai rhentu i brynu newydd ac arloesol i alluogi tenantiaid i adeiladu cyfran ym mherchnogaeth eu cartrefi drwy eu rhent.
Gwelliant 3 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod rôl tai cymdeithasol o ran darparu tai fforddiadwy cost isel, ac nad yw'n briodol i weithredu polisïau prynu cartref a fyddai'n lleihau'r stoc tai cymdeithasol. |
Cyfnod pleidleisio |
Dadl Fer (30 munud) NDM5811 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Y rhwystrau i gyflogaeth sy'n wynebu pobl sydd â nam ar y clyw yng Nghymru. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2015